SL(6)447 – Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2024

Cefndir a diben

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 (“Gorchymyn 2018”), sy’n dynodi cyrff mewn perthynas â Gweinidogion Cymru. Diben dynodiad o’r fath yw galluogi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r adnoddau y disgwylir i'r cyrff hynny eu defnyddio i gael ei chynnwys mewn cynnig Cyllideb gan y Senedd.

Effaith y Gorchymyn hwn, yn ôl ei Nodyn Esboniadol, yw dynodi 4 corff ychwanegol, newid enwau rhai cyrff dynodedig, a chynnwys y rhifau cwmni ar gyfer 10 corff a ddynodwyd yn flaenorol.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Gorchymyn o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Er bod y Nodyn Esboniadol yn nodi mai effaith y Gorchymyn hwn yw dynodi 4 corff ychwanegol, mae’n ymddangos ei fod yn dynodi’r 5 corff newydd a ganlyn:

1.     Comisiynydd Plant Cymru;

2.     FWC IFW Debt GP Limited;

3.     FWC SWIF Debt GP Limited;

4.     NE Commercial Property (GP) Limited; a

5.     Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru.

 

Felly, gofynnir i’r Llywodraeth egluro a yw’r cyrff uchod yn ddynodiadau ychwanegol mewn perthynas â Gweinidogion Cymru at ddibenion adran 126A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â’i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yn y testun Cymraeg, cyfeirir at y corff “Transport for Wales” fel “Trafnidiaeth Cymru”, ac yna nodir yr un rhif cwmni ag a geir yn y testun Saesneg. Mae hyn yn wahanol i’r cyfeiriad yn yr Atodlen honno at “Transport for Wales Rail Ltd”, y cyfeirir ato o dan yr enw Saesneg yn unig yn y testun Cymraeg ac yn y testun Saesneg, ac yna o dan yr un rhif cwmni.

Fodd bynnag, nid yw’r manylion a nodir ar gyfer “Transport for Wales” ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau yn cynnwys enw Cymraeg ar gyfer y cwmni. Yn hyn o beth, nid yw’n ymddangos bod yr enw Cymraeg “Trafnidiaeth Cymru” wedi’i gofrestru’n ffurfiol gyda Thŷ’r Cwmnïau pan newidiwyd enw’r cwmni hwn ym mis Ebrill 2016, er mai dyna’r enw masnachu a ddefnyddir ar ei gyfer yn Gymraeg.

Felly, gofynnir i’r Llywodraeth gadarnhau a ddylai’r corff dynodedig fod wedi’i restru fel “Transport for Wales” yn nhestun Cymraeg yr Atodlen, yn yr un modd â “Transport for Wales Rail Ltd” (sydd hefyd ag enw Saesneg yn unig ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau), o ystyried mai dyma’r dull arferol o gyfeirio at enwau cwmnïau cofrestredig yn nhestun Cymraeg deddfwriaeth.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Yn yr Atodlen newydd i’r Gorchymyn hwn, mae’r rhestr o gyrff dynodedig yn cynnwys “Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru”, ac mae’r troednodyn cysylltiedig yn nodi bod y cyfeiriad at y corff hwn i’w ddehongli fel “Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru”, oherwydd effaith adrannau 10 a 23 o Ddeddf Dehongli 1978.

Mewnosododd Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2023 (“Gorchymyn 2023”) gyfeiriad at “Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru” yng Ngorchymyn 2018. Yn ei adroddiad ar Orchymyn 2023, mynegodd y Pwyllgor ei farn, yn dilyn marwolaeth Ei Diweddar Fawrhydi y Frenhines a’i holyniaeth gan y Brenin Charles III, ei bod yn ymddangos y dylid mewnosod “Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru” yn ei le. Mewn ymateb i’r adroddiad hwnnw, dywedodd y Llywodraeth fod y cyfeiriad wedi’i “fewnosod yn gywir”.

Mae’r Pwyllgor yn nodi bod y ffurf “Ei Fawrhydi” wrth gyfeirio at y corff hwn wedi ei defnyddio ers hynny mewn deddfwriaeth Gymreig arall, yn benodol mewn rhestr o awdurdodau contractio yn Atodlen 1 i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, ac mewn cyfeiriadau eraill a geir yn Nodiadau Esboniadol O.S. 2024/27 (Cy. 10) ac O.S. 2023/919 (Cy. 144).

Felly, gofynnir i’r Llywodraeth esbonio’r ffaith y parheir i gyfeirio at “Ei Mawrhydi” yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

29 Ionawr 2024